NRW logo.png

 

Craffu Blynyddol 2017 y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Briffio ar faterion allweddol a chynnydd a wnaed ers mis Tachwedd 2016.

 

Cynnwys

 

1.       Cyflwyniad………...................................................................................1

2.       Llythyr cylch gwaith………………………………………………………….2

3.       Cynllun Diswyddo Gwirfoddol………………………………………………2

4.       Cynllun Corfforaethol a Chynllun Busnes…………………………………3

5.       Arolwg pobl…………………………………………………………………...4

6.       Hunan-blismona…………………………………………………………...…4

7.       Grantiau a Rhaglenni Ariannu………………………………………………5

8.       Sefyllfa ariannol ac arbedion………………………………………………..6

9.       Gweithredu deddfwriaeth……………………………………………..……10

10.    Swyddfa Archwilio Cymru…………………………………………………..13

11.    Brexit…………………………………………………………………………..14

 

1.   Cyflwyniad

 

Diben Cyfoeth Naturiol Cymru yw ceisio rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Rydym yn ymsefydlu egwyddorion rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol drwy’r ffordd yr ydym yn gweithio, a thrwy gymhwyso’r egwyddorion hyn rydym yn sicrhau bod ein cyfraniad at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) mor fawr â phosibl.

 

Mae ein hadroddiad Buddion[1], ac adroddiad gwerth am arian[2] Swyddfa Archwilio Cymru, wedi dangos ein bod wedi rheoli’r bum mlynedd gyntaf yn dda. Roedd yr adroddiad yn cydnabod bod "llwyddiant creu Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnwys heriau sylweddol". Yn wir, nid yw wedi bod yn rhydd o heriau: mae ein cyllid wedi dod o dan bwysau cynyddol, rydym yn gorfod derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau newydd o ddarnau newydd o ddeddfwriaeth, ac mae ein staff wedi dioddef newydd ac ansicrwydd parhaus yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n glod i’n staff ein bod wedi parhau i gyflawni ein dyletswyddau yn ystod y cyfnod hwn.

 

Rydym ar y trywydd iawn i gyflawni’r manteision a amlinellir yn yr achos busnes gwreiddiol. Fodd bynnag, mae gennym bryderon am ein gallu i fanteisio’n llawn ar y cyfleoedd a gynigir gan y fframwaith deddfwriaethol newydd ac i gynnal ein gwasanaethau os bydd ein cyllid yn parhau i ddod o dan yr un lefelau o bwysau yn y dyfodol. Byddem hefyd yn gallu cynllunio a rheoli ein busnes llawer mwy effeithiol pe baem yn cael gyllidebau aml-flwyddyn, yn hytrach nag yn y cyllidebau blynyddol a gawsom yn y blynyddoedd diwethaf.

 

Rydym yn croesawu’r cyfle i gyflwyno i’r pwyllgor yn ystod ei graffu blynyddol ar Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

2.   Llythyr cylch gwaith

 

Crynodeb o’r camau a gymerwyd i gyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn llythyr cylch gwaith 2016–17 Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Mae crynodeb o gamau gweithredu yn seiliedig ar y blaenoriaethau canlynol ar gael yn Atodiad 1 (tudalen 15).

 

 

Crynodeb o gamau yr ydych wedi eu rhoi ar waith i gyflawni’r blaenoriaethau a nodir yng nghylch gwaith 2017–18.

 

Mae crynodeb o gamau gweithredu yn seiliedig ar y blaenoriaethau canlynol ar gael yn Atodiad 2 (tudalen 18).

 

 

3.   Cynllun Diswyddo Gwirfoddol

 

Diweddariad ar unrhyw gynllun diswyddo gwirfoddol a gyflwynwyd ers craffu blynyddol yn 2016, gan gynnwys niferoedd y staff sydd wedi manteisio ar y cynllun a chyfanswm y gost hyd yn hyn.

 

Ni ydym wedi rhedeg unrhyw gynlluniau ymadael gwirfoddol ers cais Buddsoddi i Arbed 2016–17.

 

Fodd bynnag, rydym wedi cyflwyno dau bolisi newydd sy’n ein helpu i reoli ein hadnoddau a’n costau:

·         Polisi a gweithdrefn Adleoli a Diswyddo

·         Cynllun ymadael gwirfoddol unigol

 

Cyflwynwyd y polisïau newydd hyn ym mis Mehefin.

 

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynnal a gwella ein heffeithlonrwydd fel busnes, gan geisio sicrhau diogelwch cyflogaeth i’n cyflogeion. Mae’r polisi Adleoli a Diswyddo a’r weithdrefn gysylltiedig yn nodi sut y byddwn yn cynorthwyo’r staff hynny nad oes angen eu swyddi mwyach, y mae eu swyddi yn dod i ben, neu y cadarnheir eu bod ‘Mewn Perygl’ yn dilyn Rhaglen Newid, ar ôl cwblhau swydd â chyfyngiad amser, seibiant gyrfa neu secondiad. Caiff staff sy’n cael eu heffeithio eu cynorthwyo i ddod o hyd i swyddi eraill naill ai o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru, neu yn rhywle arall yn y Gwasanaeth Sifil neu Wasanaeth Cyhoeddus Cymru trwy gyfnod o weithgarwch adleoli. Hyd yn hyn, mae un cyflogai wedi ymadael trwy ddiswyddo gwirfoddol yn rhan o’n polisi Adleoli a Diswyddo.

 

Mae polisi a gweithdrefn y Cynllun Ymadael Gwirfoddol Unigol yn cynnig proses i’w dilyn pan allai fod gan staff ddiddordeb mewn gadael Cyfoeth Naturiol Cymru ar delerau ymadael gwirfoddol ond trwy achos busnes unigol. Mae’r weithdrefn yn cynnig fframwaith i’w ddilyn fel bod yr holl bartïon sy’n cymryd rhan yn y broses hon yn eglur ynghylch yr holl gamau sy’n ofynnol ac ar ba sail y gellir cymeradwyo ceisiadau unigol. Bydd pob cais o’r fath yn amodol ar gymeradwyo achos busnes yn unol â’r cydymffurfiad a’r dirprwyaethau a gyhoeddir. Ni chytunwyd unrhyw ymadawiadau hyd yn hyn drwy’r Cynllun Ymadael Gwirfoddol Unigol.

 

Rydym yn ystyried rhedeg Cynllun Ymadael Gwirfoddol arall yn 2018–19. Ni phenderfynwyd ar gwmpas a maint y cynllun eto.

 

 

4.   Cynllun Corfforaethol a Chynllun Busnes

 

Manylion proses ddatblygu’r Cynllun Corfforaethol nesaf ar gyfer y corff, gan gynnwys amlinelliad o flaenoriaethau disgwyliedig a manylion sut y mae’r rhain yn wahanol i gynllun cyfredol 2014–17.

 

Mae ein Cynllun Corfforaethol newydd yn rhedeg o 2017–22. Mae’n wahanol i’n Cynllun Corfforaethol blaenorol o’r safbwynt ei fod yn cymryd deddfwriaeth newydd i ystyriaeth – Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) – ac mae wedi ei ddatblygu ar sail ein Hamcanion Llesiant newydd.

 

Datblygwyd y cynllun dros y sawl mis diwethaf trwy gydweithrediad â staff a rhanddeiliaid.

 

Gwnaethom:

 

Ein blaenoriaethau fydd datblygu ein sefydliad a newid y ffordd yr ydym yn gweithio – gan fabwysiadu rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol a’i hegwyddorion cysylltiedig, a’r pum ffordd o weithio o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) – gan weithio mewn ffordd lawer mwy integredig gyda chyrff cyhoeddus eraill a chydweithredu’n agos â phartneriaid yn y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus er enghraifft.

 

Crynodeb o berfformiad y corff yn erbyn Cynllun Busnes 2016–17 a Chynllun Busnes 2017–18 (perfformiad hyd yn hyn), gan gynnwys yr adroddiad perfformiad dangosfwrdd corfforaethol diweddaraf.

 

Mae ein Fframwaith Perfformiad 2016–17 a’n Fframwaith Perfformiad 2017–18 hyd yn hyn yn isod. Mae fframwaith 2016–17 yn olrhain dangosyddion a mesurau, gan ddangos cynnydd yn erbyn y Cynllun Corfforaethol, y Cynllun Busnes a’r Llythyr Cylch Gwaith, tra bydd fframwaith 2017–18 yn olrhain mesurau a chynnydd yn erbyn y Cynllun Busnes a’r Llythyr Cylch Gwaith tan i’n Cynllun Corfforaethol newydd gael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.

 

Dangosfwrdd Terfynol 2016–17 Dangosfwrdd Fframwaith Perfformiad Cyfnod 3 2016–17

 

Dangosfwrdd 2017–18 Hyd yn Hyn Dangosfwrdd Fframwaith Perfformiad Cyfnod 1 2017–18

 

 

5.   Arolwg Staff

 

Diweddariad ar arolwg staff Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys canlyniadau arolwg 2017.

 

Rhoddodd ein hail Arolwg Pobl,[3] a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2016, wybodaeth werthfawr i ni hysbysu ein strategaeth Pobl a Thimau, datblygiad ein harweinyddiaeth, a newid a datblygiad arall yn ein sefydliad. Wrth baratoi ar gyfer ein trydydd arolwg, roeddem yn dymuno cael mwy o naratif a safbwyntiau mwy trylwyr o sut y mae pobl yn teimlo a beth arall y mae angen i ni ganolbwyntio arno i wella pethau.

 

Rydym wedi penderfynu treialu dull, a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Bangor yng Nghanolfan Cynefin, o’r enw SenseMaker, Cognitive Edge. Mae hwn yn ddull a ddefnyddir ledled y byd fel offeryn ymgysylltu â chymunedau a phobl ac, yn fwy penodol, mewn llawer o sefydliadau dielw a sector cyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Bydd elfen o gymhariaeth â’n ail arolwg pobl, ac efallai y byddwn yn dychwelyd i holiadur y Gwasanaeth Sifil yn y dyfodol. Fodd bynnag, ar gyfer ein trydydd arolwg, rydym eisiau cael gafael ar fwy o ddata ansoddol i hysbysu lle mae pethau’n mynd yn dda a beth y mae angen i ni ei newid o hyd. Disgwylir i’r arolwg gael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2018.

 

Mae gennym gynllun ymgysylltu llawn i sicrhau bod yr adborth yr ydym yn ei dderbyn mor werthfawr â phosibl, gan gynnwys pawb yn y broses o wneud Cyfoeth Naturiol Cymru yn well lle i weithio, gan wneud hyd yn oed mwy o wahaniaeth yng Nghymru.

 

 

6. Hunan-blismona

 

Crynodeb o unrhyw gamau gorfodi neu hunan-blismona y mae’r corff wedi eu cymryd yn erbyn ei hun yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Rydym yn cyhoeddi cofnod o’n holl benderfyniadau hunan-drwyddedu[4] ar y wefan bob mis.

 

Roedd 93 o benderfyniadau hunan-drwyddedu rhwng 1 Medi 2016 a 31 Awst 2017, ac roedd cymysgedd o drwyddedau echdynnu, trwyddedau morol, trwyddedau gweithgarwch perygl llifogydd, cydsyniadau Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac awdurdodiadau chwynladdwr.

 

Cyflwynir trwyddedau Echdynnu Dŵr gan y Tîm Trwyddedu Adnoddau Dŵr ac mae ei broses drwyddedu a deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno ein dogfennau penderfyniad i Lywodraeth Cymru graffu arnynt a chael yr opsiwn i’w ‘galw i mewn'. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyson fodlon â’n penderfyniadau ar y ceisiadau. Ar ôl i ni dderbyn ymateb swyddogion Llywodraeth Cymru, fe’u hanfonir at y Cyfarwyddwr Gweithredol dros Dystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu i’w cymeradwyo, h.y. nid yw’r arweinydd tîm yn eu cadarnhau, sef y broses a’r lefel ddirprwyo ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn gysylltiedig â Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Ymchwilio cydymffurfiad

Mae System Rheoli Amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei hardystio i safon amgylcheddol ISO14001:2015. Yn rhan o’r System Rheoli Amgylcheddol, mae gennym weithdrefn yn ymwneud ag ymchwilio, adrodd ac adolygu digwyddiadau amgylcheddol.

 

 

7.  Grantiau a Rhaglenni Ariannu

 

Diweddariad ar grantiau a rhaglenni ariannu partneriaeth.

 

Mae’r rowndiau grant cystadleuol cyfredol (a ddyfarnwyd yn 2015 a 2016) a’r Partneriaethau Cydweithio (a ddyfarnwyd yn 2015) oll yn dod i ben ym mis Mawrth 2018. 

 

Ceir crynodeb isod o’r arian a ddyrannwyd i’r ddwy rownd grant a’r swm a dalwyd allan hyd yn hyn:

 

Tabl 1

Rownd

Dyraniad

Talwyd hyd yn hyn

Cystadleuol 2015

£1,703,396

£4,740,812

Partneriaethau Cydweithio 2015

£3,309,131

Cyfanswm rowndiau 2015

£5,012,527

£4,740,812

 

 

 

Cystadleuol 2016

£510,392

£113,738

 

 

 

Cyfansymiau

£5,522,919

£4,854,550

 

Mewn ymateb i argymhellion adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru[5] ac yn unol â gofynion ffyrdd newydd o weithio Llywodraeth Cymru a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, datblygwyd dull newydd ar gyfer ariannu partneriaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n dilyn Model Comisiynu ar gyfer Cydweithio a Chyd-gynhyrchu,[6] ac fe’i cymeradwywyd gan Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Mai 2017.[7] 

 

Mae’r dull newydd hwn yn annog datblygiad prosiectau cydweithredol a, phan fo’n briodol, wedi’u cyd-gynhyrchu â phwyslais eglur ar yr anghenion a brofwyd ar lefel Datganiad Ardal lleol. Gan na ddisgwylir i’r Datganiadau Ardal eu hunain gael eu cwblhau tan fis Rhagfyr 2019, rydym wedi penderfynu cynnal galwad agored am rownd grant interim, gan ddefnyddio cynlluniau comisiynu lleol i nodi heriau rhagarweiniol y gwahoddir rhanddeiliaid allanol i gynnig atebion iddynt. 

 

Gan fod y ffordd hon o weithio yn newydd a chan y bydd yr alwad hon yn cynnig grantiau am hyd at 18 mis yn unig, bydd yn cael ei defnyddio fel prawf i archwilio sut yr ydym yn sicrhau dull sy’n fwy seiliedig ar le sy’n integreiddio amcanion amgylcheddol a llesiant mewn ffordd gyfannol. Bydd yr alwad agored nesaf yn dechrau wedyn ar ôl i’r Datganiadau Ardal gael eu cyhoeddi, a bydd am hyd at bedair blynedd.

 

 

8. Sefyllfa ariannol ac arbedion

 

Sefyllfa ariannol ddiweddaraf y corff.

 

Blwyddyn Ariannol 2017–18

 

Cyllideb Refeniw

Yn 2017–18, derbyniwyd dyraniad Cymorth Grant digyfnewid gennym gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn cymharu â gostyngiad o 7% (£6 miliwn) yn 2016–17. Mae gennym bwysau chwyddiant a chyflog hefyd. I helpu, rydym wedi parhau i gyflawni gostyngiadau i’n costau gweithredu wrth i ni leihau’r ddibyniaeth ar ein cyrff etifeddol. Galluogodd hyn i ni sefydlogi ein cyllidebau a pheidio â gwneud unrhyw ostyngiadau pellach i’r gyllideb ar ôl gwneud toriadau yn 2016–17.

 

Y pwysau mwyaf sylweddol o ran costau a ddaeth i’r amlwg yn 2017–18 yw effaith gweithredu’r cynllun Gwerthuso Swyddi, â goblygiadau ar unwaith ac yn y dyfodol o ran costau. Mae’r pwysau ar unwaith o ran costau yn cael eu rheoli trwy wneud arbedion oportiwnistaidd mewn cyllidebau a’n sefyllfa incwm gadarnhaol.

 

Ers ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn i’n cynorthwyo i gymryd cyfrifoldebau newydd, i weddnewid, ac i ymdrin â sefyllfaoedd brys fel ymdrin â phroblemau iechyd coed (gweler Tabl 2). 

 

Adroddwyd ein sefyllfa ariannol gyfredol[8] i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Medi 2017.

 

I grynhoi, mae’r sefyllfa ariannol gyffredinol ar gyfer 2017–18 ar ddiwedd mis Awst yn gadarnhaol; mae incwm ar y blaen i gyllideb ac mae gwariant yn cael ei reoli islaw’r gyllideb.

 

Cyllideb Gyfalaf

Mae ein rhaglen gyfalaf fwyaf ar gyfer rheoli perygl llifogydd. Ar hyn o bryd, rydym yn gwario rhwng £15 miliwn ac £20 miliwn y flwyddyn a £19 miliwn yw’r cyfanswm yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Rydym ar y trywydd iawn i gwblhau tri chynllun mawr yn 2018 yng Nghrindai (Casnewydd), Llanelwy a’r Rhath (Caerdydd).

 

Mae ein Cymorth Grant llinell sylfaen yn sylweddol is na’r lefel honno (amcangyfrif o £10 miliwn o’r cyfanswm o £17 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf). Ategwyd cyllid yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan gyllid Ewropeaidd, Cynllun Seilwaith a Gwella Cymru, a dyraniadau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

 

Rydym hefyd yn derbyn dyraniad llawer llai ar gyfer gwaith nad yw’n ymwneud â llifogydd – £0.8 miliwn a £0.9 miliwn arall ar gyfer gwelliannau i Lwybr Arfordir Cymru fel rheol. Yn 2017–18, derbyniwyd £2 filiwn ychwanegol gennym, a wnaeth ein galluogi i gychwyn cynllun clirio coed yn y gogledd sy’n mynd i’r afael a pheryglon difrifol – mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllid ychwanegol i’r cynllun hwn ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd.

 

Blwyddyn Ariannol 2018–19 a thu hwnt

Rydym wedi derbyn cadarnhad o’n dyraniadau Cymorth Grant dangosol ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol nesaf. Mae ein Cymorth Grant refeniw ar gyfer gwaith nad yw’n ymwneud â llifogydd wedi lleihad o 5% (£3m) ym mhob un o'r ddwy flynedd nesaf. Rydym yn aros am gadarnhad o’n setliad refeniw llifogydd, ond mae’r Llywodraeth wedi rhoi gwybod i ni na fydd unrhyw ostyngiad.

 

Mae’r gostyngiadau arfaethedig yn golygu bod ers creu Cyfoeth Naturiol Cymru, mae ein cyllid refeniw llinell sylfaen wedi lleihau gan £13m y flwyddyn, sy'n 14% mewn termau arian parod a 29% mewn termau real.

 

Oherwydd newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth a pholisi a phwysau ariannol a ragwelir yn y blynyddoedd i ddod, rydym wedi gwneud y penderfyniad i ailgynllunio’r sefydliad gyda llai o staff na’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd. Rydym yn disgwyl i’n rhaglen newid gael ei chwblhau erbyn 1 Ebrill 2019 a dylai gyflawni arbedion gwerth £10 miliwn y flwyddyn o ran costau sy’n gysylltiedig â staff ac nad ydynt yn gysylltiedig â staff.

 

Rydym yn benderfynol o fod yn rheoleiddiwr effeithlon ac effeithiol ac rydym wedi cynnal ein ffioedd ar neu’n sylweddol is na’r lefelau termau real a godwyd gan ein rhagflaenydd yn 2012–13. Unwaith eto, ar gyfer 2018–19, byddwn yn cynnal ffioedd ar yr un lefelau ‘arian parod’ â 2017–18.

 

Ar gyfer ein gweithgareddau masnachol, byddwn yn rhoi ein Cynllun Menter ar waith, a fydd yn sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar ein cyfleoedd a’n gweithgareddau masnachol i gynorthwyo’r datblygiad a’r defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol.

 

Manylion unrhyw geisiadau a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol yn ogystal â’ch dyraniad ariannol a gyllidebwyd ar gyfer 2016–17 a 2017–18 i fynd i’r afael â phwysau a chyfrifoldebau newydd.

 

Cyllid Ychwanegol

Roedd Cymorth Grant ychwanegol a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru i’w ddefnyddio yn 2016–17 a 2017–18 fel a ganlyn:

 

 

 

Tabl 2

Cyllid a ddyrannwyd ar gyfer:

2016–17 £m

2017–18 £m

Rhaglen Gyfalaf Rheoli Perygl Llifogydd

3.5

4.0

Iechyd coed

3.5

3.5

Deddfwriaeth, cyfrifoldebau a gwasanaethau newydd

2.9

1.8

Refeniw Rheoli Perygl Llifogydd

0.8

1.5

Blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru (troseddau gwastraff yn 2016–17 a blaenoriaethau morol, gwastraff a basn afon yn 2017–18)

0.2

0.3

Gweithgareddau a reoleiddir na adenillwyd trwy ffioedd

0.4

0.4

Newid sefydliadol (diffyg pensiwn Rhanbarthau Draenio Mewnol yn 2015–16 ac arian cyfatebol ar gyfer Cynllun Ymadael Gwirfoddol yn 2016–17)

1.0

0.0

Adferiad Cloddfeydd Metel

0.0

3.3

Cynllun Cwympo Coed Brys

0.0

0.4

Cyfanswm

12.3

15.2

 

 

Y wybodaeth ddiweddaraf ar yr arbedion cyflawnadwy arian parod ac nad ydynt yn arian parod a sicrhawyd gan y corff, gan gynnwys manylion costau a buddion a wireddwyd gan y sefydliad ers iddo gael ei sefydlu, y rhagolwg costau a buddion ar gyfer y dyfodol, ac unrhyw resymau am wyro o’r rhai a ddisgwyliwyd.

 

Y sefyllfa ddiweddaraf o ran Achos Busnes

Cadarnhawyd yr adroddiad olrhain cyflawniad buddion[9] ar gyfer yr Achos Busnes[10] gan ein Pwyllgor Archwilio Risg a Sicrwydd, a oedd yn cyfiawnhau sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru fel un corff amgylcheddol yng Nghymru. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

Cymhariaeth o’r Achos Busnes Gwreiddiol, Targed Diwygiedig Llywodraeth Cymru a Rhagolwg Cyfredol o’r sefyllfa erbyn diwedd Blwyddyn 10 (2022/23)

 

Tabl 3

yr holl ffigurau mewn £m

Achos Busnes Gwreiddiol

Targed Diwygiedig Llywodraeth Cymru

Rhagolwg o’r sefyllfa derfynol ar

31 Mawrth 2017

 

 

 

 

Buddion Arian Parod

127

127

141

Costau

-69

-66

-78

Net

59

61

63

Gwerth Presennol Net

42

41

44

 

Mae’r ddogfen yn adrodd ar y buddion a wireddwyd o greu Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n cymharu buddion gwirioneddol gydag Achos Busnes 2011 Llywodraeth Cymru a nododd ffyrdd y byddai sefydliad newydd yn cyflawni gwell canlyniadau, gwell darpariaeth i Gymru a gwell gwerth am arian.

 

Mae’r adroddiad buddion terfynol hwn yn dilyn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, “Datblygiad Cyfoeth Naturiol Cymru”,[11] a ddaeth i’r casgliad bod “Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mabwysiadu dull cadarn a threfnus i ymdopi â’r heriau mawr a oedd yn codi yn sgil ei greu, gan sicrhau dilyniant o ran cyflawni ei ystod eang o swyddogaethau, a gyda phwyslais clir ar gyflawni’r buddiannau a fwriadwyd”. Nododd hefyd fod “Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud cynnydd da tuag at gyflawni arbedion ariannol a chyflawni buddiannau eraill a fwriadwyd ar adeg ei greu” ac “wedi dysgu yn sgil y cynnydd a wnaethpwyd a’r heriau a wynebwyd”.

 

Ers adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, rydym wedi cynnal ein swyddogaethau craidd ac wed gwneud camau sylweddol i gyflawni ein dibenion newydd, er enghraifft cyhoeddi’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, bod yn bartneriaid gweithredol ar Fyrddau Gwasanaethau Lleol, a mabwysiadu ffyrdd cydweithredol newydd o weithio yn arwain at baratoi Datganiadau Ardal.  

 

Rydym wedi sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru fel sefydliad annibynnol, integredig sydd wedi dechrau cyflawni gwell canlyniadau. Er bod llawer o waith i wneud o hyd i wireddu potensial Cyfoeth Naturiol Cymru yn llawn, rydym eisoes wedi cyflawni’r holl newidiadau angenrheidiol i sicrhau’r manteision ansoddol a meintiol sy’n ofynnol o dan yr Achos Busnes.

 

Erbyn diwedd mis Mawrth 2017, roeddem wedi gwneud newidiadau a fydd yn crynhoi £141 miliwn o fuddion cyflawnadwy arian parod erbyn 2022–23, o’i gymharu â tharged yr Achos Busnes o £127 miliwn. Bydd set bellach o welliannau cynhyrchiant a fydd ar waith erbyn diwedd mis Mawrth 2017 yn crynhoi £30 miliwn o fuddion cyflawnadwy nad ydynt yn arian parod erbyn 2022–23, o’i gymharu â tharged yr Achos Busnes o £31 miliwn. Mae cyfanswm y budd cyflawnadwy arian parod ac nad yw’n arian parod cyfunol o £171 miliwn  yn cymharu â tharged yr Achos Busnes o £158 miliwn.

 

Er mai £78 miliwn oedd cost wirioneddol creu Cyfoeth Naturiol Cymru yn hytrach na’r amcangyfrif o £69 miliwn yn yr Achos Busnes, mae’r gost ychwanegol yn cael ei mantoli a mwy gan y £14 miliwn ychwanegol o fudd cyflawnadwy arian parod.

 

Cyflawnwyd hwn yn erbyn cefndir llai o Gymorth Grant i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r buddion a wireddwyd wedi helpu i liniaru effaith y gostyngiad i gyllid.

 

9. Gweithredu deddfwriaeth

 

Diweddariad ar y gost o gyflawni swyddogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gynnwys unrhyw bwysau ariannol.

 

Rhaglen Gweddnewid Rheolaeth Adnoddau Naturiol

Un o amcanion y Rhaglen Gweddnewid Rheolaeth Adnoddau Naturiol yw datblygu offerynnau a chanllawiau i fodloni gofynion y ddeddfwriaeth newydd a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Rhan Un Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Ein bwriad yw datblygu offerynnau, canllawiau a thystiolaeth mewn ffordd integredig ac wedi’i symleiddio i sicrhau bod cyn lleied o gostau ac ailadrodd â phosibl.

 

Felly mae’r prosiectau ar draws Rhaglen Gweddnewid Rheolaeth Adnoddau Naturiol yn integreiddio lle bo’n briodol gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru). Caiff prosiectau allweddol eu cynnwys fel:

·         Y ddarpariaeth o dystiolaeth i hysbysu datblygiad cynlluniau llesiant gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus.

·         Datblygiad offerynnau a chanllawiau i hysbysu datblygiad y gyfres gyntaf o ddatganiadau ardal.

 

Yn ogystal â phrosiectau a fydd yn datblygu canllawiau ar gyfer dyletswyddau newydd yn Rhan Un Deddf yr Amgylchedd, fel:

·         Defnydd o bwerau archwilio.

·         Taliadau ar gyfer cynlluniau Gwasanaethau Ecosystem.

 

Hefyd wedi eu cynnwys y mae prosiectau a fydd yn hwyluso ymsefydliad Rheolaeth Adnoddau Naturiol a’r ffyrdd newydd o weithio sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth, fel:

·         Hyfforddiant.

·         Cyllid allanol.

 

Rydym wedi derbyn arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo’r newidiadau sy’n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth newydd. Derbyniwyd £0.8 miliwn gennym ar gyfer 2016–17 ac £1.4 miliwn ar gyfer 2017–18. Rydym wrthi’n cwblhau ein cais ar gyfer 2018–19. Mae’r ffigurau hyn yn cynrychioli dwy ran o dair o’r gost yr ydym wedi ei hamcangyfrif ar gyfer bodloni gofynion y ddeddfwriaeth. Nid ydym wedi ceisio ad-daliad y costau yr aethpwyd iddynt yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Bydd y costau hyn yn cael eu hintegreiddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru. O ran y costau yr aethpwyd iddynt yn erbyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru), rydym yn derbyn y byddai cyfran o’r costau hyn wedi codi o ganlyniad i uno’r tri sefydliad etifeddol.

 

O gofio’r pwysau ariannol ehangach y mae’r sefydliad yn gweithredu oddi tanynt, byddai setliad ariannol mwy hirdymor i adlewyrchu’r costau sy’n gysylltiedig â’r ddeddfwriaeth newydd, yn hytrach na chais blynyddol sy’n cael ei gytuno ar ddechrau’r flwyddyn ariannol newydd, yn ein galluogi i gynllunio ein hadnoddau a’n cyllid ar sail hirdymor fwy cynaliadwy. 

 

 

Diweddariad ar gynnydd hyd yn hyn o ran cyflawni swyddogaethau Cyfoeth Naturiol Cymru o dan y Deddfau hyn.

 

Datganiadau Ardal

Rydym wedi gwneud ymrwymiad y bydd Datganiadau Ardal yn rhan ganolog o’n proses cynllunio gweithredol. Mae ein Bwrdd wedi cytuno y dylem ganolbwyntio’r datganiadau ardal cyntaf ar ein chwe maes gweithredol fel y gallwn flaenoriaethu ein hadnoddau ein hunain a mabwysiadu dull sy’n canolbwyntio mwy ar le.

 

Cyhoeddwyd y Polisi Adnoddau Naturiol ddiwedd mis Awst 2017 gan Lywodraeth Cymru. Dyma’r ail o’r tri chynnyrch allweddol i ddeillio o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) – gan adeiladu ar yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol a luniwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru – ac mae bellach yn galluogi’r dasg o ddatblygu Datganiadau Ardal (er mwyn helpu i weithredu’r polisi) i gychwyn.

 

Nodir tair thema genedlaethol yn y Polisi Adnoddau Naturiol, sef:

·         Darparu atebion seiliedig ar natur – gweithio’n fwy effeithiol gyda natur i fynd i’r afael â’n heriau mawr. Mae hyn yn adlewyrchu’n benodol y casgliadau y daethpwyd iddynt yn ein Hadroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol.

·         Cynyddu ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd adnoddau – a nodi llwybr eglur ar gyfer buddsoddi yn y meysydd hyn.

·         Mabwysiadu dull seiliedig ar le – i ymateb i anghenion a chyfleoedd lleol.

 

Gan fod y tri maes blaenoriaeth ar lefel mor uchel, rydym wedi bod yn trafod â Llywodraeth Cymru yn y cyfnod ers cyhoeddi’r Polisi Adnoddau Naturiol sut i droi’r polisi yn weithred.

 

Hoffem ddatblygu Blaenoriaethau Gofodol Cenedlaethol sy’n adlewyrchu rhai o’r cyfleoedd allweddol yn y Polisi Adnoddau Naturiol – bydd hyn yn ein helpu i fframio ein gwaith ar Ddatganiadau Ardal ar lefel genedlaethol. Gallai hyn grynhoi tystiolaeth ofodol bresennol ar gyfleoedd i ddatblygu atebion seiliedig ar natur, er enghraifft (nid yn unig):

·         Cyfleoedd i gynnal capasiti cynhyrchu Cymru – ar gyfer cnydau, da byw, pysgod, pren, a ffrydiau naturiol o ynni.

·         Cyfleoedd i gynorthwyo canlyniadau iechyd, gan gynnwys y rheini’n ymwneud ag llygredd aer a sŵn i gyflyrau’n gysylltiedig â diffyg ymarfer corff.

·         Cyfleoedd i amddiffyn rhag peryglon, yn enwedig o ran effeithiau llifogydd a newid hinsawdd, ac ati.

 

Mae’r rhain yn dal i fod yn drafodaethau cynnar a byddwn yn darparu mwy o wybodaeth yn y misoedd nesaf i gadarnhau’r hyn a fydd yn digwydd nesaf a’r cyfleoedd i randdeiliaid gymryd rhan.

 

Rydym yn paratoi offerynnau i hysbysu’r asesiad o reolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol i gyfrannu at y gwaith o baratoi Datganiadau Ardal ac Adroddiadau ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn y dyfodol. Mae modelau gofodol ac economaidd wrthi’n cael eu datblygu.

 

Ymsefydlu Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol ar draws y Sefydliad

Rydym wedi datblygu’r Fframwaith Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol i’n staff, yn unol â’r dull “lefel” a argymhellwyd gan y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau. Bydd y fframwaith yn gwobrwyo datblygiad proffesiynol ac o bosibl yn galluogi sefydliadau eraill i ymsefydlu egwyddorion Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol trwy gymhwyso’r safon.

 

Treialwyd y cwrs Lefel 1 a 2 gyda’r staff yn ystod gwanwyn 2017. Gan ddefnyddio adborth, cwblhawyd y gwaith o baratoi’r cwrs Lefel 1 a 2 gennym, ac rydym wrthi’n ei gyflwyno i’r holl staff ar draws y sefydliad. Mae 546 o staff wedi ymrestru ar 19 o gyrsiau yn ystod y cyfnod yn arwain at Nadolig 2017. Bydd cyflwyniad llawn yn gyflawn erbyn haf 2018.

 

Trwy ddatblygu’r datganiad llesiant a’r cynllun corfforaethol, rydym wedi manteisio ar y cyfle i gynyddu dealltwriaeth ymhlith staff a phartneriaid o’n diben, a sut y mae’n newid y ffordd yr ydym yn gweithio fel sefydliad. Mae ein cynrychiolwyr ar Fyrddau Gwasanaethau Lleol wedi manteisio ar y cyfle i siarad am y cyfraniad y mae adnoddau naturiol yn ei wneud at lesiant y lle hwnnw. Mae ein staff hefyd wedi darparu cyflwyniadau wedi’u teilwra i bob Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y blaenoriaethau a’r cyfleoedd sy’n deillio o’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol.

 

Ym mis Gorffennaf 2017, cymeradwyodd ein Bwrdd yn gryf bapur[12] yn cyflwyno naratif ar gyfansoddiad posibl fframwaith ariannu yng Nghymru i sicrhau Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol. Roedd y papur yn cydnabod yr holl ffrydiau ariannu sy’n cyfrannu at y ddarpariaeth o Reolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol, trwy grantiau gan wahanol gyrff/sefydliadau a chynlluniau codi ffioedd i fecanweithiau ariannu amgen fel Talu am Wasanaethau Ecosystemau. Mae’r naratif hefyd yn ystyried yn fwy penodol yr hyn y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru ei wneud i alinio ei gynllun codi ffioedd yn y dyfodol yn fwy cadarn â diben a ffyrdd o weithio Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol. 

 

Rydym wedi diffinio’r swyddogaethau y gallem eu cyflawni ym maes Talu am Wasanaethau Ecosystemau, gan gyflwyno i’n Bwrdd a chael cymeradwyaeth ganddo. Bydd y swyddogaethau diffiniedig yn sicrhau ein bod yn cynorthwyo rhanddeiliaid i ddatblygu cyfleoedd newydd mewn ffordd gyson ac mewn modd sy’n helpu i fodloni amcanion Rheolaeth Gynaliadwy o Adnoddau Naturiol. Yn fwy penodol, rydym wedi gwneud gwaith manwl, yr ydym yn cyfeirio ato fel y “Farchnad Werdd”, ar nodi’r cyfleoedd ar gyfer Talu am Wasanaethau Ecosystemau yng Nghymru a’r hyn y gallai fod ei angen i’w ddatblygu. Mae’r gwaith hwn wedi nodi amrywiaeth o gyfleoedd yr ydym yn parhau i’w harchwilio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

Mae diwallu anghenion y ddeddfwriaeth newydd wedi bod yn ysgogwr allweddol o waith cynllunio’r sefydliad. Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad seiliedig ar le, gan weithio’n agos gyda’r bobl a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ein tîm arweinyddiaeth newydd yn arwain ymgysylltiad ym mhob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a bydd yn arwain y gwaith o baratoi Datganiadau Ardal. Bydd y trefniadau llywodraethu newydd a fydd yn cael eu cyflwyno yn gofyn i holl rannau’r sefydliad sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl at y nodau llesiant trwy gyflawni ein diben.

 

 

10. Swyddfa Archwilio Cymru

 

Diweddariad ar gynnydd a wnaed i weithredu’r argymhellion yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru o fis Chwefror 2016, “Datblygiad Cyfoeth Naturiol Cymru”.

 

Mae gennym un cam sydd dal heb ei gyflawni – dynododd ymateb diweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ym mis Hydref 2017 fod angen hysbysu am fuddion tan ddiwedd ein cyfnod cyntaf o ddeg mlynedd. Rydym yn ystyried y ffordd orau o wneud hynny bellach. Mae crynodeb mwy manwl o gynnydd ar gael yn Atodiad 3 (tudalen 25).

 

Mae llwyddiannau allweddol ers sesiwn graffu 2016 yn cynnwys:

·         Cyhoeddi ein Datganiad Llesiant cyntaf.

·         Cwblhau adrodd 2016–17 yn erbyn Achos Busnes Cyfoeth Naturiol Cymru.

·         Cwblhau tri symudiad llety arall.

·         Sefydlu dull comisiynu newydd ar gyfer cyllid Grantiau a Phartneriaeth.

 

Manylion y camau a gymerwyd gan y corff yn dilyn adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, Cyfoeth Naturiol Cymru: Craffu ar Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 2015–16.

 

Yn dilyn gwaith craffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PCC) ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015/16 Cyfoeth Naturiol Cymru, gwnaed tri argymhelliad i fynd i’r afael â’n trefniadau llywodraethu. Ceir crynodeb o’r cynnydd hyd yn hyn isod. Bydd crynodeb llawn yn cael ei gyflwyno i’r PCC ym mis Tachwedd 2017.

 

Argymhelliad 1 y PCC: Rydym yn argymell bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal gwerthusiad llawn o’i drefniadau llywodraethu o ran prosesau contractio, gan nodi’n eglur gwersi a ddysgwyd a chyfeirio’n benodol at gontractau gwerthu pren y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn.

 

·      Mae dau adolygiad llywodraethu ar waith ar hyn o bryd:

­  Mapio proses ein rheolau gwneud penderfyniadau a dogfennau sy’n ofynnol o ran gwerthuso, cytuno a dyfarnu contractau ac ymrwymiadau allanol eraill

­  Cyflwyno proses Gweithredu Tendr Sengl ar gyfer ein gwerthiannau pren

·      Trefniadau llywodraethu, gan gynnwys uwchgyfeirio, o ran diwygiadau i gontractau, e.e. i hyd neu faint, wedi cael eu cynnwys yn ein Platfform Rheoli Pren.

·      Mae ein Cynllun Menter newydd, a gymeradwywyd ym mis Gorffennaf 2017, yn nodi ein dull o ymdrin â Gwasanaethau Masnachol, maes sylweddol o’n gwaith sy’n cynnwys contractau gwerthu. Sefydlwyd Prosiect Polisi Gweithgarwch Masnachol i wneud trefniadau llywodraethu a chraffu ar weithgareddau yn y presennol a’r dyfodol o dan ein Portffolio Menter newydd.

 

Argymhelliad 2 y PCC: Rydym yn argymell bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu ei drefniadau dirprwyo ochr yn ochr â’i waith codi ymwybyddiaeth o gyfraith Cymorth Gwladwriaethol, cyfraith gyhoeddus a’r prosesau ar gyfer dyfarnu contractau. Rydym yn argymell bod canfyddiadau’r gwerthusiad hwn yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i alluogi’r Pwyllgor hwn i fonitro gweithrediad a chynnydd yn erbyn newidiadau a nodwyd.

 

·      Mae Cynlluniau Dirprwyo Ariannol ac Nad Yw’n Ariannol wedi cael eu hadolygu:

­  Bydd enghreifftiau ehangach ychwanegol o faterion newydd, dadleuol ac â sgil-effeithiau yn cael eu hychwanegu at y ddau gynllun.

­  Bwriedir cynnal adolygiad llawn o’r Cynlluniau Dirprwyo Ariannol ac Nad Yw’n Ariannol yn 2018 i alinio â newidiadau mawr i strwythur y sefydliad sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd.

·      Cyflwynwyd Rhaglen Hyfforddiant ar gyfer y timau Grantiau a Phartneriaethau, Mentrau Newydd, Rheoliadau’r Dyfodol a Chaffael.

­  Cwblhawyd Hyfforddiant Cymorth Gwladwriaethol ym mis Hydref 2017.

­  Hyfforddiant Cyfraith Gyhoeddus i ddilyn cyn diwedd 2017.

·      Ymateb y PCC i gael ei anfon ym mis Tachwedd 2017.

 

Argymhelliad 3 y PCC: Rydym yn argymell bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu ei drefniadau llywodraethu mewnol i sicrhau bod gan ei swyddog cyfrifyddu, ei dîm gweithredol a’i fwrdd swyddogaeth lawer mwy o ran craffu ar brosesau contractio a dyfarnu contractau. Mae’n hanfodol bod y prosesau hyn yn gadarn gyda llwybr archwilio eglur a dangosadwy bod penderfyniadau wedi cael eu gwneud ar sail deg a chadarn.

 

·      Adolygwyd Cylch Cyfrifoldeb y bwrdd a’r is-bwyllgorau yn ystod haf 2017.

·      Cyflwynwyd Rhagolwg y Bwrdd i grynhoi a chynllunio cwmpas ac ystod eu gwaith.

·      Mae dogfennau a thempledi cyfarfodydd wedi cael eu diweddaru a byddant ar gael i’r holl staff o fis Tachwedd 2017.

 

 

11. Brexit

 

Diweddariad ar oblygiadau Brexit i Cyfoeth Naturiol Cymru, a throsolwg o waith o wnaed gan y corff i baratoi ar gyfer Brexit.

 

Ystyriodd Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru oblygiadau Brexit[13] ar 23 Mawrth 2017. Mae hyn yn cyflwyno risgiau a chyfleoedd i safbwynt amgylcheddol. Ar y naill law, mae’n creu ansicrwydd sylweddol ynghylch y fframwaith rheoleiddio, y dull o gydymffurfio â rhwymedigaethau amgylcheddol cyfredol, a lefel y cyllid sydd ar gael i gynorthwyo’r gwaith o reoli adnoddau naturiol. Mewn cyferbyniad â’r pryderon hyn, ceir y potensial i lunio atebion penodol i Gymru nad ydynt yn gofyn am drafodaethau hirfaith gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ac aelod-wladwriaethau eraill mwyach cyn eu gweithredu.

 

Rydym wedi ein cynrychioli yng nghyfarfodydd bwrdd crwn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, sy’n cynghori Llywodraeth Cymru ar oblygiadau polisi a deddfwriaethol gadael yr UE. Caiff y bwrdd crwn ei gefnogi gan saith gweithgor Llywodraeth Cymru arall ac mae ein staff wedi bod yn cymryd rhan ym mhob un o’r rhain ers eu sefydlu, wedi eu hategu gan gyfarfodydd rheolaidd grŵp llywio mewnol ar Brexit. Mae hyn yn cynnwys staff arbenigol o bob rhan o’r sefydliad a chaiff ei gadeirio gan ein Pennaeth Rheoli Adnoddau Naturiol.

 

Yn rhan o’r broses o ystyried yr hyn sydd ar y gorwel, rydym yn parhau i drafod materion yn ymwneud â Brexit gyda’n chwaer-sefydliadau yng ngweddill y DU. Cynhelir cyfarfodydd rhwydweithio rheolaeth ar amrywiaeth o lefelau (o’r Prif Weithredwr i staff arbenigol perthnasol) ac mae Brexit yn eitem sefydlog ar y rhan fwyaf o agendâu. Gwnaethom gyfraniad hefyd at brosiect rhyngasiantaeth diweddar ar oblygiadau rheoli tir Brexit.[14]

 

 

 

 

Atodiad 1

 

Crynodeb o’r camau a gymerwyd i gyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd yn llythyr cylch gwaith 2016–17 Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

1.    Gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu eich dull o weithredu Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, gan gynnwys Datganiadau Ardal a’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, a fydd yn hysbysu’r blaenoriaethau a’r risgiau a’r cyfleoedd ar gyfer y rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol i Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol, a’r Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol a gwaith y Comisiynydd o dan y ddeddfwriaeth Llesiant.

Rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu ein Cynllun Corfforaethol newydd a sicrhau bod ein dyletswyddau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) yn cael eu cyflawni. Mae ein gwaith ar Ddatganiadau Ardal yn parhau i ddatblygu ac yn dal i fod ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2019. Yn yr un modd, cyhoeddwyd ein Hadroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol cyntaf ym mis Medi 2016 ac mae gwaith eisoes ar y gweill ar yr ail adroddiad, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn 2020.

Holl bwyslais y Cynllun Corfforaethol yw sicrhau bod y cyfraniad y gall yr amgylchedd naturiol ei wneud at y Nodau Llesiant ar gyfer pobl Cymru mor fawr â phosibl, gan reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy fel y gallant barhau i gael eu defnyddio gan genedlaethau’r dyfodol.

2.    Bod yn bartner gweithredol mewn Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, gan ddangos yr adnoddau cyfrannu at sicrhau llesiant a gweithio ar y cyd i sicrhau cymaint o lesiant lleol â phosibl.

Rydym wedi chwarae ein rhan yn y broses o sefydlu’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus newydd ledled Cymru ac yn cydnabod ein sefyllfa unigryw fel yr unig aelod statudol sy’n aelod o bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Darparwyd tystiolaeth sylweddol gennym ar adnoddau naturiol a’r amgylchedd lleol yn rhan o Asesiadau Llesiant cyntaf y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

3.    Sefydlu cynllun menter o fewn eich Fframwaith Llywodraethu ynghyd â cherrig milltir ar gyfer cynhyrchu incwm sy’n esiampl o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan weithio gyda phartneriaid a chymunedau.

Darparodd is-grŵp Menter bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru drosolwg o ddatblygiad y Cynllun Menter a gymeradwywyd gan fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Gorffennaf 2017. Mae’r cynllun yn nodi’r berthynas rhwng ein gweithgareddau masnachol a’r rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol ac yn diffinio cyfres o egwyddorion masnachol y byddwn yn eu dilyn.

4.    Nodi cyfleoedd i gynorthwyo datblygiad a menter gymunedol trwy wirfoddoli a chefnogaeth barhaus i raglen Esgyn.

Darparwyd rhaglen Estyn trwy ffrwd lleoliadau gwaith ein Cynllun Lleoliadau Cyfle. Rydym wedi cael dau leoliad deg wythnos llwyddiannus yn y gogledd lle cawsant lawer o brofiad gwerthfawr wrth weithio gyda ni. Gobeithiwn y bydd y cyfle i ennill sgiliau newydd yn rhoi unigolion mewn sefyllfa well i ddod o hyd i gyflogaeth ac yn helpu i atal tlodi tymor hwy yng Nghymru a byddwn yn parhau i gefnogi cynllun Esgyn.

 

5.    Dechrau gwaith adeiladu ar gynlluniau perygl o lifogydd blaenoriaethol y Rhaglen Buddsoddi yn Seilwaith Cymru ar gyfer Llanelwy, Crindai (Casnewydd) a’r Rhath (Caerdydd).

Mae cynlluniau yn y Rhath, Crindai a Llanelwy oll ar y safle ac yn mynd rhagddynt yn unol â’r amserlen. Rydym yn rhagweld y bydd Llanelwy wedi gorffen adeiladu erbyn diwedd Rhagfyr 2017 a Chrindai i fod wedi ei gwblhau i raddau helaeth erbyn diwedd Mawrth 2018. Disgwyli’r i’r Rhath fod wedi ei gwblhau erbyn Medi 2018. Bydd y cynlluniau hyn yn sicrhau lleihad i’r perygl o lifogydd i fwy na 1,600 o adeiladau.

6.    Cymryd camau i fynd i’r afael â throsedd gwastraff fel y nodir yn y Gweithgor Trosedd Gwastraff a’r Cynllun Gweithredu ar Danau mewn Safleoedd Gwastraff.

Mae ein swyddogion rheoleiddio a gorfodi wedi derbyn hyfforddiant ar ymchwiliadau gorfodi ac ymchwilio i weithgareddau gwastraff anghyfreithlon. Rydym wedi dod yn un o noddwyr ymgyrch “Right Waste, Right Place” i godi ymwybyddiaeth o’r ddyletswydd gofal o ran gwastraff ymhlith busnesau a thirfeddianwyr.

Comisiynwyd adroddiad gennym ar drosedd gwastraff yng Nghymru, gan gynnwys trosolwg o raddfa a chost trosedd gwastraff, y ffactorau sy’n ei achosi ac argymhellion ar gyfer mynd i’r afael ag ef. Lluniwyd rhestr seiliedig ar dystiolaeth o safleoedd perygl uchel o dân i sicrhau ein bod yn targedu ein gwaith at y safleoedd hynny sy’n peri’r risg fwyaf. Caiff y rhestr hon ei diweddaru yn gyfnodol ac fe’i rhannwyd gyda’r Gwasanaethau Tân ac Achub fel eu bod yn ymwybodol o safleoedd uchel eu risg yn y meysydd gwasanaeth.

Rydym wedi darparu hyfforddiant mewnol ac allanol ar atal a lliniaru tân mewn safleoedd gwastraff ac rydym wedi secondio tri aelod o staff o’r Gwasanaethau Tân ac Achub i gynorthwyo ein swyddogion mewn safleoedd perygl uchel o dân.

7.    Yn rhan o Raglen Weithredu Awdurdod Cyllid Cymru, archwilio opsiynau darparu ar gyfer cydymffurfiad â’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi a swyddogaethau gorfodi, yng nghyd-destun Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) a darpariaethau’r Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi.

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru â’r rheini sy’n datblygu Awdurdod Cyllid Cymru. Rhoddwyd tystiolaeth[15] gennym i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol[16] ar gyfer y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) ar 19 Ionawr 2017, a nododd gynnydd. Mae un o’n huwch-reolwyr yn mynychu Bwrdd Rhaglen Weithredu Awdurdod Cyllid Cymru. Deddfwyd y ddau Fil yn 2017.

 

8.    Cynnig cyngor prydlon a chydgysylltiedig i Lywodraeth Cymru ar weithrediad rheoliadau UE a domestig ac i gefnogi gwaith achos torri cyfraith, gan gynnwys helpu i ddatblygu’r dull o weithredu Rheoliadau Rhywogaethau Goresgynnol Estron newydd yr UE.

Mae Rhaglen INNS Cymru, a sefydlwyd yn 2016, wedi cynorthwyo Llywodraeth Cymru trwy gynnig cyngor ar Reoliadau Rhywogaethau Goresgynnol Estron yr UE 2014 i gyflawni ymrwymiadau Cymru o dan y rheoliadau hyn. Mae’r cam o fabwysiadu’r Rheoliadau Rhywogaethau Goresgynnol Estron (Gorfodi a Thrwyddedu) cysylltiedig, sydd ar fin cael eu cyflwyno ac a fydd yn rhoi pwerau i ni fel rheoleiddiwr, wedi cael ei oedi tan 2018. 

Rydym yn disgwyl i ymgynghori pellach gyda DEFRA symud yn ei flaen. Darparwyd cyngor a chymorth i Lywodraeth Cymru ddatblygu fframwaith ar gyfer gweithredu pwerau i gyflwyno Darpariaethau Rheoli Rhywogaethau gan Cyfoeth Naturiol Cymru a gweinidogion Cymru o dan ddiwygiadau i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 gan Ddeddf Seilwaith 2015.

9.    Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu a gweithredu’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer y Môr a Physgodfeydd y Rhaglen Newid Morol

Rydym wedi cyflwyno cyngor cychwynnol i Lywodraeth Cymru ar ddull cymesur seiliedig ar risg o gydsynio trwy Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Rydym yn darparu cyngor a chyswllt parhaus i ddatblygu dull o ymdrin â datganiadau ardal yn yr amgylchedd morol a’r berthynas â chynllunio morol, gan gynnwys cyfarfodydd gyda thimau morol a rheoli adnoddau naturiol Llywodraeth Cymru a chyswllt mewnol yn Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

10. Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid ar ddatblygu sail dystiolaeth gyffredin, gan ymgysylltu ynghyd â’r gymuned addysg uwch/ymchwil ac arloesi o ran casglu a rhannu data

Rydym yn parhau i gyfrannu’r nifer fwyaf o setiau data i Ganolfan Wybodaeth Llywodraeth Cymru(Lle). Erbyn mis Ebrill 2017, roeddem wedi cyfrannu 56% o gyfanswm y setiau data a’n setiau data ni sy’n creu’r mwyaf o weithgarwch ymhlith defnyddwyr (chwiliadau a lawrlwythiadau) ar y porth. Trwy weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a cheisio awtomeiddio lanlwythiadau data lle gallwn, mae’r gwasanaeth hefyd yn costio sylweddol lai i’w redeg ac mae angen ei weinyddu llai. Yn dilyn ein hawgrym ni, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu datblygiadau’r dyfodol i Lle wella profiad y cwsmer, i gynnig mwy o argaeledd a chreu arbedion effeithlonrwydd pellach o ran gweinyddiaeth.

 

 

 

 

 

 

Atodiad 2

 

Crynodeb o’r camau yr ydych wedi eu rhoi ar waith i gyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn llythyr cylch gwaith 2017–18.

 

1.    Yn y cyd-destun polisi eglur a bennwyd gan “Symud Cymru Ymlaen”, Amcanion Llesiant cysylltiedig Llywodraeth Cymru a chyhoeddiad Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru, dylai Cyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi ei Gynllun Corfforaethol 2017–18 / 2021–22 ddiwedd yr haf neu ddechrau’r hydref yn 2017, gan nodi’r amcanion llesiant cysylltiedig. Dylai hwn nodi sut y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio i ddarparu’r polisi a’r fframwaith deddfwriaethol newydd, gan ddangos y ffyrdd y mae’r blaenoriaethau a’r polisïau sydd wedi eu cynnwys yn y Polisi Adnoddau Naturiol yn cael eu hintegreiddio i’r dull o ddarparu o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru a chynnig gweledigaeth nerthol a grymusol ar gyfer y staff a rhanddeiliaid.

 

Mae ein Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf wrthi’n cael ei ddatblygu. Mae’n ymateb i’r Rhaglen Lywodraethu – Symud Cymru Ymlaen, y strategaeth genedlaethol – Ffyniant i Bawb, y Polisi Adnoddau Naturiol, a’r ddeddfwriaeth newydd a’r polisi newydd sy’n deillio ohono, gan gynnwys datblygiad ein Hamcanion Llesiant. Byddwn yn sicrhau bod yr holl strategaethau a pholisïau hyn yn cael eu hystyried yn llawn yn y Cynllun Corfforaethol, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2018.

 

2.    Dechrau datblygu gwaith yn lleol tuag at lunio datganiadau ardal, gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Byrddau Gwasanaethau Lleol, ynghyd â rhanddeiliaid lleol a chenedlaethol, i nodi a darparu cyfleoedd a manteision lleol yn unol â’r blaenoriaethau a bennwyd gan y Polisi Adnoddau Naturiol.

 

Mae’r timau gweithredol sy’n arwain datblygiad y Datganiadau Ardal yn dechrau casglu amrywiaeth o dystiolaeth yn ymwneud â’r adnoddau naturiol yn eu lle nhw, y rhanddeiliaid allweddol a grwpiau gweithredol. Rydym wedi canolbwyntio llawer o egni cychwynnol ar gynorthwyo datblygiad Cynlluniau Llesiant lleol drwy’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae hyn wedi cynnwys darparu tystiolaeth a phecynnau gwybodaeth i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru a chynnig cymorth â thynnu elfennau’r asesiadau o lesiant lleol ynghyd. Bydd yr asesiadau hyn, ynghyd â’r dadansoddiad o’r ymatebion, a’r cysylltiadau yr ydym yn eu gwneud â rhanddeiliaid eraill drwy’r broses hon, yn elfennau pwysig i adeiladu arnynt wrth ddatblygu’r Datganiadau Ardal.

 

Un o’r cyfleoedd cynnar a nodwyd yw defnyddio ein cyllid partneriaeth i gefnogi datblygiad a darpariaeth y broses Datganiadau Ardal. Rydym yn bwriadu ariannu prosiectau ym mhob un o’r ardaloedd y mae Datganiadau Ardal yn berthnasol iddynt – dros amser, wedi eu halinio i’r blaenoriaethau, y risgiau a’r cyfleoedd yn y lleoedd hynny, neu ar raddfa ofodol briodol. Byddwn yn defnyddio’r broses gomisiynu yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol hon i helpu i nodi heriau y mae angen i ni fynd i’r afael â nhw gyda’n gilydd, a nodi prosiectau priodol ar gyfer cyllid yn 2018–19.

 

3.    Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r anghenion tystiolaeth a nodwyd yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2016 a chytuno ar ddulliau o ran sut y gellid darparu’r rhain orau, a datblygu cynigion ar gyfer dangosyddion canlyniadau i fesur i ba raddau y mae rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol yn cael ei sicrhau ledled Cymru ar y lefel genedlaethol a lleol, gan adeiladu ar yr allbynnau cadarnhaol o’r broses o gwmpasu opsiynau ar gyfer fframwaith monitro adnoddau naturiol yn y dyfodol.

 

Gyda Llywodraeth Cymru, rydym wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen tystiolaeth er mwyn helpu i flaenoriaethu anghenion tystiolaeth ar gyfer yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol nesaf yn 2020. Diben y grŵp hwn yw cytuno’r fframwaith a chynnig dangosyddion i fesur a monitro cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yng Nghymru ac i werthuso darpariaeth yn erbyn blaenoriaethau ac amcanion y Polisi Adnoddau Naturiol. Rydym hefyd mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru ynghylch dulliau o asesu Rheolaeth Gynaliadwy, sy’n alinio â gwaith sy’n cael ei ddatblygu gan DEFRA a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

 

4.    Gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i gwblhau’r adolygiad o swyddogaeth a diben Ystâd Goed Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun egwyddorion ac amcanion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

 

Mae gwaith wedi cychwyn ar ein gofyniad i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i gwblhau’r adolygiad o swyddogaeth a diben Ystâd Goed Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun egwyddorion ac amcanion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Rydym wedi cael trafodaethau rhagarweiniol gyda Llywodraeth Cymru ar gwmpas yr adolygiad, a fydd yn cynnwys ystyriaeth o sut y gallwn wella mynediad at y manteision sy’n llifo o Ystâd Goed Llywodraeth Cymru, yn enwedig i gymunedau, ac wedi mapio’r ysgogwyr deddfwriaethol, strategol a pholisi allweddol sy’n berthnasol i’n rheolaeth o Ystâd Goed Llywodraeth Cymru.

 

Rydym wedi ymgysylltu â staff allweddol yn fewnol ac wedi cael trafodaethau gyda’n tîm Cynllunio Corfforaethol i ddeall sut y mae’r adolygiad yn cyd-fynd â’r broses o ddrafftio ein Cynllun Corfforaethol newydd. Byddwn yn cyfarfod â Llywodraeth Cymru i gytuno’n derfynol ar gwmpas y gwaith; i drafod sut y bydd yr adolygiad yn cyd-fynd ag adnewyddiad Strategaeth Coetiroedd i Gymru; i gadarnhau trefniadau llywodraethu, gan gynnwys swyddogaeth y Panel Cynghori ar y Strategaeth Coetir; ac i gytuno ar yr allbynnau o’r adolygiad.

 

5.    Fel Ymatebwr Categori 1, parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y darperir adroddiadau sefyllfa a phapurau briffio priodol i weinidogion ar baratoi, ymateb ac adfer brys o ran digwyddiadau amgylcheddol categori uchel fel y nodir yng Nghanllawiau Categoreiddio Digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Fel Ymatebwr Categori 1:

·         rydym yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru,

·         yn mynychu cyfarfodydd parodrwydd fel Fforwm Cydnerthedd Cymru a Thîm Partneriaeth Cydnerthedd Cymru,

·         ac yn darparu adroddiadau sefyllfa a phapurau briffio i Lywodraeth Cymru ar ymateb ac adfer brys o ran digwyddiadau amgylcheddol categori uchel fel y nodir yn ein Canllawiau Categoreiddio Digwyddiadau.

 

6.    Gwella cydnerthedd cymunedol drwy’r cynllunio rheoli perygl llifogydd blaenoriaethol a rhaglen Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru. Parhau i gasglu tystiolaeth ar y perygl o lifogydd o bob ffynhonnell trwy fapio asesiadau perygl llifogydd newydd a darparu’r Gronfa Ddata Asedau Llifogydd Cenedlaethol a gwasanaeth rhagweld a rhybuddio llifogydd cynhwysfawr.

 

Mae ein gwaith ymwybyddiaeth llifogydd wedi arwain at ddatblygu dau gynllun llifogydd cymunedol hyd yn hyn eleni a chynnal 32% o’r cynlluniau llifogydd cymunedol presennol. Mae’r gwaith hwn yn sicrhau bod y cynlluniau’n dal i fod yn gyfredol ac yn addas i’r diben pe bai eu hangen. Mae 963 o gynlluniau llifogydd ar waith ar gyfer cymunedau a busnesau unigol a recriwtiwyd 265 o wardeniaid cynllun llifogydd. Rydym hefyd wedi gwneud 4,476 o bobl yn fwy ymwybodol a pharod ar gyfer llifogydd trwy waith ymgysylltu lleol a chenedlaethol.

 

Mae’r gwaith o ddatblygu asesiad perygl llifogydd newydd i Gymru ar y gweill a bydd yn parhau yn ystod gweddill y flwyddyn gyda chynhyrchion allweddol yn cael eu darparu a’u cwblhau yn 2018–19. Mae gwaith i ddatblygu cronfa ddata Asedau Perygl Llifogydd Cenedlaethol yn parhau, ac mae bellach yn cynnwys gwybodaeth gan awdurdodau rheoli risg allanol, gan gynnwys awdurdodau lleol ledled Cymru, ac rydym yn gweithio gyda’n partneriaid eraill (Network Rail a Dŵr Cymru Welsh Water) gyda’r nod o gynnwys eu gwybodaeth am asedau nhw yn y dyfodol agos.

 

Mae ein holl weithgareddau rheoli perygl llifogydd allweddol eraill, gan gynnwys ein gwasanaethau parhaus fel darparu rhagolygon a rhybuddion llifogydd ledled Cymru, ein rhaglenni cynnal asedau, cyngor datblygu a chynllunio, gwelliannau i’n mapiau llifogydd, a pharatoadau ar gyfer digwyddiadau perygl llifogydd, oll wedi parhau ochr yn ochr â’n gweithgareddau busnes fel arfer eraill.

 

7.    Gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru i gryfhau camau i fynd i’r afael â throsedd gwastraff fel y nodir yn y gweithgor Trosedd Gwastraff a’r Cynllun Gweithredu ar Danau mewn Safleoedd Gwastraff.

 

Mae ein canllawiau Cynllun Atal a Lliniaru Tân ar gyfer safleoedd gwastraff wedi cael eu hadolygu a’u hailysgrifennu gan ystyried profiad diffodd tân ymarferol a chymryd i ystyriaeth y canfyddiadau o’r profion tân byw a gynhaliwyd gan Fforwm Diogelwch ac Iechyd y Diwydiant Gwastraff gyda chymorth Cymdeithas y Prif Swyddogion Tân.

 

Cyhoeddwyd setiau rheolau safonol wedi eu diweddaru gennym ar 1 Awst 2017 yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr am drwydded newydd fod â Chynllun Atal a Lliniaru Tân ar yr adeg y byddant yn dechrau gweithredu a deiliaid trwydded rheolau safonol presennol i fod â Chynllun Atal a Lliniaru Tân ar waith o 1 Tachwedd 2017.

 

Mae’r newidiadau hyn ar eu pen eu hunain yn ei gwneud yn ofynnol i 69 o weithredwyr ledled Cymru fod â Chynllun Atal a Lliniaru Tân ar waith. Mae ein Tîm Trwyddedu yn cynnwys amod sy’n gwneud Cynllun Atal a Lliniaru Tân yn ofynnol mewn trwyddedau wedi’u teilwra ac wedi cychwyn rhaglen i ychwanegu’r gofyniad at drwyddedau wedi’u teilwra presennol sy’n ymddangos ar frig y rhestr safleoedd perygl uchel o dân.

 

8.    Datblygu gweithgareddau menter o fewn eich Fframwaith Llywodraethu gyda cherrig milltir ar gyfer cynhyrchu incwm, gan gynnig esiampl o ran y rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol, a gweithio gyda phartneriaid a chymunedau, gan gynnwys cyfleoedd twristiaeth yn gysylltiedig â dull marchnata Llywodraeth Cymru ar gyfer y Flwyddyn Chwedlau yn 2017 a Blwyddyn y Môr yn 2018.

 

Mae ein Cynllun Menter yn esbonio’r dull cam wrth gam a fydd yn cael ei fabwysiadu i ddatblygu a gweithredu’r cynllun. Rydym yn bwrw ymlaen â hyn mewn ffordd sydd wedi ei halinio â’n proses Cynllunio Corfforaethol. Rydym yn gweithio ag eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, mewn ymdrech ar y cyd i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol, i ddarparu manteision lluosog ac atebion hirdymor ar raddfa briodol (egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy) yn rhan o’n model allariannu dan arweiniad comisiynu.

 

Diben Cam 1 yw diffinio’r rhaglen a’r cysylltiadau yn ôl i’r Amcanion Llesiant a Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. Mae’r cam hwn wedi ei gwblhau. Diben Cam 2 yw sefydlu llinell sylfaen ariannol eglur a chyfres o dargedau ariannol a dangosyddion perfformiad. Rydym wedi diffinio’r llinell sylfaen ariannol ar gyfer y prif feysydd gan ddefnyddio blwyddyn 16–17. Rydym eisiau diffinio’r targedau a’r dangosyddion yn gyfochrog â’n proses Cynllunio Corfforaethol er mwyn sicrhau aliniad. Diben Cam 3 yw llywodraethu, ac mae gennym brosiect parhaus sy’n cael ei arwain gan ein tîm Llywodraethau, sy’n cyfuno gweithgareddau menter â’r fframwaith rheolaethau rhyng-gysylltiedig. Bydd Cam 3 yn cael ei gwblhau ddechrau 18–19 ond â cherrig milltir cynharach.

 

Mae’r holl safleoedd hamdden a hyrwyddir ar dir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael eu lanlwytho i borth data twristiaeth canolbarth Cymru i gael eu defnyddio gan eraill (e.e. busnesau twristiaeth, Croeso Cymru ac ati). Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr priodol ar draws y sefydliad a chyda rhanddeiliaid fel Croeso Cymru, awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol a rheolwyr Llwybrau Cenedlaethol i hyrwyddo eu cynnig hamdden mewn ffordd sy’n gyson ac yn gydgysylltiedig o fewn brand Cymru.

 

Rydym yn cefnogi Blwyddyn Chwedlau Croeso Cymru. Rydym yn hyrwyddo deg taith gerdded â chysylltiadau chwedlonol[17] i bobl archwilio’r tirweddau a ysbrydolodd rai o straeon hynafol Cymru: pump mewn coetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, a phump ar Lwybr Arfordir Cymru.

 

Blwyddyn y Môr yw’r thema ar gyfer ymgyrch 2018 Croeso Cymru, a bydd yn dathlu morlin ardderchog Cymru.

 

Byddwn yn dathlu cyfoeth yr amgylchedd morol yn ystod Blwyddyn y Môr. Bydd dwy elfen i’n hymgyrch. Y gyntaf fydd hyrwyddo ein deg safle gorau ar gyfer ymweliadau – gan gynnwys Parth Cadwraeth Forol Sgomer, ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol arfordirol a safleoedd coedwig. Yr ail fydd codi ymwybyddiaeth o’r cyfoeth o fywyd gwyllt ym moroedd Cymru.

 

9.    Parhau i nodi cyfleoedd i gefnogi datblygiad cymunedol a menter trwy wirfoddoli a pharhau cefnogaeth i raglen Estyn, a pharhau i gefnogi prosiectau ynni cymunedol a choedwigoedd cymunedol ar Ystâd Goed Llywodraeth Cymru, pan fo’n briodol.

 

Ein nod dros y 18 mis nesaf yw darparu 30 o leoliadau Esgyn ledled Cymru. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio i ddatblygu ein cynllun Cyfle ar gyfer gwahanol fathau o ‘leoliad’ o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru (gan gynnwys prentisiaethau, myfyrwyr, ymchwilwyr a gwirfoddolwyr).

 

Cafodd ein Rheolwr Datblygu Busnes Masnachol, sy’n gyfrifol am ddatblygu’r Rhaglen Darparu Ynni, gyfarfod gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr Ynni Cymunedol Cymru ym mis Mai 2017, gan sicrhau’r holl bartïon y byddai datblygiadau mewn rhannau priodol o Ystad Goed Llywodraeth Cymru yn cael eu hystyried yn ffafriol.

 

Hyd yn hyn, ni fu unrhyw gysylltiad uniongyrchol gan grwpiau ynni gyda chynigion ar gyfer unrhyw ddatblygiadau ar Ystad Goed Llywodraeth Cymru, a gallai hyn fod oherwydd ffactorau sy’n eu cyfyngu fel y farchnad, costau grid a’r risgiau sy’n gysylltiedig â datblygiadau o’r fath. Fodd bynnag, dylid nodi ein bod wedi mynd ati i hyrwyddo rhaglen Ynni Dŵr ar Raddfa Fach rhwng 2010 a 2013, a arweiniodd at 300 datganiad o ddiddordeb ac a arweiniodd wedyn at adeiladu nifer fach o gynlluniau cymunedol. Anogwyd hyn i raddau helaeth gan y Tariff Bwydo i Mewn, sydd, ers sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi cael ei leihau ac yna ei ddiddymu.

 

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar sut y gallwn gymryd y risg o gyfleoedd trwy fynd â chynlluniau i’r pwynt o ennill Caniatâd Cynllunio cyn cynnig y rhain ar y farchnad. Rydym wrthi’n datblygu clwstwr o bum prosiect ynni dŵr ar raddfa fach i’r perwyl hwn.

 

Sicrhaodd tendr marchnad agored diweddar ar gyfer datblygiad gwynt ar y tir o naw tyrbin yng Nghoedwig Alwen ger Rhuthun ymrwymiad gan y datblygwr buddugol o roi’r cam ymgysylltu cymunedol angenrheidiol o’r prosiect yn nwylo Ynni Cymunedol Cymru, yn ogystal ag ymrwymiad i ganiatáu i hyd at 15% o werth y prosiect fod mewn perchnogaeth leol. Mae hyn wedi rhoi mwy o hyder i ni gryfhau’r pwyslais ar berchnogaeth leol a manteision uniongyrchol i Gymru ym mhob gwahoddiad i dendro yn y dyfodol ar gyfer datblygiadau ynni ar Ystâd Goed Llywodraeth Cymru.

 

Rydym wedi bod yn gweithio gyda grŵp Llais y Goedwig i ddarganfod sut y gallwn wella’r ffordd yr ydym yn gweithio gyda grwpiau cymunedol sy’n dymuno defnyddio ein tir ar gyfer prosiectau cymunedol. Rydym yn gweithio tuag at wella cynllun Mynediad er mwyn cynorthwyo i symleiddio sut yr ydym yn ymateb i geisiadau. Mae’r cynllun yn cynnig mwy o gwmpas i’r sefydliadau a’r grwpiau sector gwirfoddol gyflwyno prosiectau, gan nad ydym yn derbyn adnoddau i ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli i unigolion. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru drwy’r adolygiad o gwmpas a diben yr ystâd goed gyhoeddus, i ddeall yn well eu dyheadau ar gyfer coetiroedd cymunedol.

 

10. Chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflwyno’r Cynllun Morol a darpariaeth ei ddyletswyddau a’i swyddogaethau cyffredinol yn rhan o’r gwaith o dan y Rhaglen Newid Morol

 

Rydym wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i gynorthwyo datblygiad Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru. Mae hon wedi bod yn broses adeiladol ac wedi ein galluogi i ddylanwadu ar ddatblygiad y cynllun o safbwynt ein swyddogaethau rheoleiddio a chynghori. 

 

Rydym yn cynnal trefniadau gweithio agos gyda Llywodraeth Cymru, a chymorth iddi, wrth i bwyslais y gwaith symud tuag at drefniadau ar gyfer gweithredu’r cynllun, gan gynnwys ein swyddogaeth reoleiddio yn y maes morol. Mae gennym flaengynllun gwaith i nodi a datblygu’r canllawiau sy’n ofynnol i gefnogi gweithrediad y cynllun. Hon fydd y broses ar gyfer ymsefydlu Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn ein prosesau gwneud penderfyniadau a chynghori.

 

11. Nodi a manteisio ar gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth agosach â thimau amgylchedd awdurdodau lleol, yr Arolygiaeth Amaethyddiaeth a rheoleiddwyr eraill i gyflawni eich dyletswyddau rheoleiddio priodol chi a hwythau pan fyddant yn rhyngweithio, er enghraifft, i fynd i’r afael â niwsansau statudol neu ansawdd aer lleol, llygredd amaethyddol, neu, yn syml, pan allai arbenigedd sydd gan un rheoleiddiwr roi cymorth i un arall.

 

Rydym yn gweithio’n agos gyda rheoleiddwyr eraill, rhanddeiliaid, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, gan rannu arbenigedd a cheisio sicrhau dull cydgysylltiedig pan fydd ein cyfrifoldebau’n gorgyffwrdd. Yn fwy diweddar, trwy ein hymgysylltiad â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, ein nod yw ceisio nodi rhagor o gyfleoedd i gydweithredu a chynnig cyngor arbenigol yn ôl yr angen.

 

Cynhaliwyd arolwg gennym yn ddiweddar i fesur ansawdd ein cyngor – sicrhawyd sgôr llinell sylfaen o 4 allan o 5 gennym ar gyfer effeithiolrwydd ein cyngor wrth ymateb i gynlluniau datblygu, a sgôr o 3.9 allan o 5 ar gyfer ymateb i ymgynghoriadau caniatâd cynllunio. Mae hyn yn awgrymu bod mwyafrif yr ymatebwyr naill ai’n cytuno, neu’n cytuno’n gryf bod ein cyngor wedi cael effaith ar eu penderfyniadau.

 

12. Parhau i gefnogi rhaglen Taclo Tipio Cymru trwy weithio gydag awdurdodau lleol ac eraill i alluogi’r ddarpariaeth o strategaeth tipio anghyfreithlon Llywodraeth Cymru. Byddai hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth, cynnal cyfathrebiad gyda rhanddeiliaid, a pharhau i fynd i’r afael â dympio gwastraff yn anghyfreithlon ar raddfa fawr, fel y diffinnir yn y Protocol Tipio Anghyfreithlon. Byddai’r camau hyn yn cefnogi nod strategol Llywodraeth Cymru i Gymru sy’n “rhydd rhag niwed cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol annerbyniol wedi’i achosi gan dipio anghyfreithlon”. Darparu cymorth a chyngor i awdurdodau lleol wrth gyflawni eu dyletswydd i roi sylw i dir halogedig.

 

Mae ystadegau Llif Data Gwastraff yn dangos y bu gostyngiad o 42% i nifer y digwyddiadau tipio anghyfreithlon yr ymdriniwyd â nhw gan awdurdodau lleol ers i fenter Taclo Tipio Cymru gychwyn yn 2007–08, gan arwain at ostyngiad o 40% i’r gost o glirio yn sgil tipio anghyfreithlon. Fodd bynnag, roedd tua 36,000 o ddigwyddiadau a gofnodwyd yng Nghymru o hyd y llynedd, ac mae’n amlwg bod mwy o waith i’w wneud i fodloni nodau’r strategaeth.

 

Bydd elfennau allweddol ein gwaith yn 2017–18 yn cynnwys:

·         Darparu negeseuon addysgol mewn ffordd gynaliadwy i ysgolion a cholegau yng Nghymru trwy ddarparwyr addysgol presennol.

·         Rhagor o ymchwil i sefydlu sail dystiolaeth gadarn i ddeall yn well sut y gall Cymru barhau i arwain y ffordd o ran mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon.

·         Darparu prosiectau seiliedig ar le wedi eu harwain gan dystiolaeth a gwybodaeth. Canolbwyntio ar gyd-ddarpariaeth, amcanion a rennir a chanlyniadau cynaliadwy.

·         Ymgyrchoedd addysg ac ymwybyddiaeth wedi’u targedu ac wedi eu harwain gan wybodaeth trwy gyfryngau darlledu a chymdeithasol (gan gynnwys ysgolion a cholegau) mewn cymunedau lle mae’r angen fwyaf.

·         Ymchwilio i opsiynau hyfforddi ar gyfer swyddogion awdurdod lleol, gan gynnwys pecynnau e-ddysgu a chymhwyster gorfodi.

·         Parhau gyda’r gweithgorau (Gorfodi, Tir Preifat a Gwneud Tipio Anghyfreithlon yn Annerbyniol yn Gymdeithasol) i gyflawni’r camau gweithredu o’r Strategaeth Tipio Anghyfreithlon.

 

Mae ein tîm Taclo Tipio Cymru hefyd wedi arwain y gwaith o ddatblygu system cofnodi gwastraff ar y we ac ap cyfatebol o’r enw FlyMapper, sy’n ein galluogi ni a’n partneriaid i gofnodi, plotio a thynnu lluniau o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon ar fap cenedlaethol. Mae’r cyfuniad o system ar y we ac ap ffôn clyfar yn gwneud hysbysu am ddigwyddiadau yn gynt ac yn haws nag erioed ac mae diddordeb yn FlyMapper yn cynyddu, gyda saith awdurdod lleol yn defnyddio’r feddalwedd ar hyn o bryd a diddordeb gan berchnogion tir preifat fel Dŵr Cymru Welsh Water hefyd.

 

13. Parhau i gefnogi’r ddarpariaeth o Gynllun Rheoli Tir Cynaliadwy Glastir yn unol â’r Cytundeb Adran 83 a’r contractau Datblygu Gwledig sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyda Llywodraeth Cymru.

 

Rydym wedi datblygu tîm pwrpasol i gynorthwyo Llywodraeth Cymru gyda phroses Gwirio Coetir Glastir. Maent hefyd wedi cynorthwyo gyda’r brif ffrwd ar ddarpariaeth Glastir ar ffermydd. Mae’r tîm wedi darparu gwasanaeth llwyddiannus, sydd wedi cynnwys proses wedi ei hailbeiriannu ar gyfer pob gwaith gwirio Coetir, hyfforddiant estynedig a chanllawiau i’n staff ar amrywiaeth o wasanaethau Glastir, a lefelau uchel o ddarpariaeth y cynllun sydd wedi arwain at ardal fawr o blannu coed newydd ledled Cymru.

 

14. Bwrw ymlaen, yn rhan o Raglen Weithredu Awdurdod Cyllid Cymru, y ddarpariaeth o swyddogaethau cydymffurfio a gorfodi’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, yng nghyd-destun Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) a darpariaethau’r Bil Gwarediadau Tirlenwi.

 

Rydym yn parhau i weithio gyda staff Trysorlys Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru i bennu sut y byddwn yn darparu cydymffurfiad yn weithredol. Mae achos busnes yn cael ei gwblhau, ac mae grŵp llywio ar y cyd yn goruchwylio penderfyniadau gweithredol. Byddwn yn recriwtio ac yn sefydlu ein systemau dros y chwe mis nesaf (Hydref 2017 – Mawrth 2018).

 

15. Cyflogi, a rhoi cymorth fel cynhaliwr, i’r ddau aelod o Dîm Cymorth Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.

 

Gweithiwyd gyda Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru i sicrhau dyfodol hirdymor Tîm Cymorth Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, gan geisio gwella ffyrdd o weithio er mwyn cyflawni eu blaenoriaethau cyfunol yn well, ac, o ganlyniad, trosglwyddwyd Tîm Cymorth Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru i ni a daethant yn aelodau staff parhaol o fis Ebrill 2017.

 

Ers hynny, rydym wedi gweithio ar gynorthwyo’r gwaith o sefydlu a llywio partneriaethau natur lleol, gan ddarparu fforwm ar gyfer rhannu arfer da, rhwydweithio, cyswllt uniongyrchol gyda ni, a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru. Rydym wedi dechrau gweithio ar adnewyddu prosiect bylchau tystiolaeth Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, rydym wedi cefnogi Wythnos Natur Cymru (wythnos flynyddol o ddigwyddiadau â thema bywyd gwyllt ledled Cymru), ac rydym wedi llunio dogfennau arfer da yn cyfateb camau gweithredu adfer natur lleol â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), yr ydym wedi eu dosbarthu i holl arweinwyr Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru. Rydym wedi parhau cyfathrebiadau Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru trwy e-bost, cyfryngau cymdeithasol ac ati, ac rydym hefyd yn paratoi i adnewyddu gwefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.

 

Atodiad 3

 

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru o fis Chwefror 2016, Datblygiad Cyfoeth Naturiol Cymru – Cynllun Gweithredu Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Cyf

Argymhelliad Swyddfa Archwilio Cymru

Cam Gweithredu Cyfoeth Naturiol Cymru

Arweinydd Cyfoeth Naturiol Cymru

Dyddiad ar gyfer Cwblhau

Diweddariad

Statws

A1a

Er mwyn galluogi CNC i gynllunio mewn ffordd fwy cadarn ar gyfer y

tymor canolig, dylai Llywodraeth Cymru roi mwy o sicrwydd i CNC o

ran trefniadau cyllido’r dyfodol, yn enwedig am y tair blynedd nesaf,

gan gynnwys datgan a fydd cyllid ychwanegol ar gael o ganlyniad i’r

cynnydd mewn cyfrifoldebau statudol.

Yn dilyn etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2016, trafod y sefyllfa cyllid dangosol ar gyfer 2017–18 i 2019–20 gyda Llywodraeth Cymru a sut y gall LlC roi mwy o sicrwydd hirdymor.

Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

31/10/16

Mae LlC wedi darparu setliad refeniw un flwyddyn drafft a setliad cyfalaf pedair blynedd. Felly nid oes gennym sicrwydd o ran cyllid y tu hwnt i 2017–18 o hyd. Pan gyhoeddodd y Gweinidog Cyllid y cyllidebau drafft yn gynharach yr hydref hwn, dywedodd ei fod yn gobeithio darparu cyllidebau refeniw dangosol y tu hwnt i 2017–18 ar ôl Datganiad yr Hydref y DU. Ar hyn o bryd, rydym yn defnyddio rhagolygon a wnaed gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol ar gyllid Llywodraeth Cymru i hysbysu ein tybiaethau cynllunio.

Cwblhawyd

A1b

Dylai CNC gynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid

i gytuno ar y prif flaenoriaethau cyflawni ar gyfer CNC yn ystod y

pum mlynedd nesaf, ac i reoli disgwyliadau o’i rôl a’i gyfraniad at

ganlyniadau amgylcheddol, gan gofio y bydd yn cael llai o gyllid.

Darparu Cynllun Corfforaethol 2017–2022 a Chynllun Ymgysylltu, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, a chasglu adborth gan yr holl randdeiliaid, gan gynnwys LlC.

Cyfarwyddwr Llywodraethu

Medi 2016

Yn unol â Pholisi Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru (LlC), rydym wedi cytuno gyda LlC y bydd ein Cynllun Corfforaethol newydd yn cael ei gyhoeddi ddiwedd 2017.

 

Cyhoeddwyd ein Datganiad Llesiant cyntaf, gan gynnwys ein hamcanion llesiant, ym mis Mawrth 2017. Bydd y rhain hefyd yn hysbysu ein Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer 2017–22.

Cwblhawyd

A2

Dylai CNC a Llywodraeth

Cymru gytuno ar ffordd briodol o fonitro ac adrodd am y broses o sicrhau

buddiannau yng nghyd-destun y camau ehangach mae CNC yn eu cymryd

i ymateb i bwysau o ran y gyllideb.

CNC i gwblhau adroddiad sicrhau buddiannau 2015/16.

Cyfarwyddwr y Portffolio Gweddnewid

31/05/17

Bydd yr Adroddiad Sicrhau Buddiannau terfynol yn cael ei gwblhau ym mis Mai 2017.

Cwblhawyd

Cyfarfod nawdd CNC / LlC i gytuno ar ofynion y dyfodol o ran adrodd ar sicrhau buddiannau.

Cyfarwyddwr y Portffolio Gweddnewid

31/05/17

Rydym wedi gofyn i LlC i allu dod ag adrodd ar sicrhau buddiannau ffurfiol i ben.

Mae’r ymateb gan LlC ar 3 Hydref 2017 yn dynodi y bydd angen adrodd buddiannau tan ddiwedd y cyfnod o 10 mlynedd. Rydym yn ystyried y ffordd orau o wneud hynny nawr.

Yn disgwyl cadarnhad

A3a

Ystyried anghenion tymor hir CNC o ran adeiladau

Parhau datblygiad a gweithrediad Strategaeth Adeiladau hirdymor CNC.

Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

31/03/17

Mae anghenion adeiladau yn parhau i gael eu hasesu ond mae darpariaeth hyd at ddiwedd mis Mawrth 2017 yn cynnwys:

·       Penodwyd Swyddog Adeiladau

·       Pwyslais ar ad-drefnu swyddfeydd bach / depos

·       Adeiladau wedi eu halinio â strwythur a dull darpariaeth seiliedig ar le newydd CNC, e.e. symud swyddfa Bangor

·      Symudwyd Labordy CNC i gyd-leoliad ym Mhrifysgol Abertawe

Cwblhawyd

Cwblhau opsiynau strategol ar gyfer De, Gogledd a Chanolbarth Cymru i adlewyrchu strwythur a gofynion sefydliadol newydd.

Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

31/12/16

Symudwyd swyddfa Bangor ddechrau 2017.

Bydd ein symudiad yn y Canolbarth o’n swyddfa yn y Drenewydd yn cael ei gwblhau ym mis Medi 2017. Bydd opsiynau strategol a sefydlwyd ar gyfer prosiect y De wedi eu cwblhau erbyn mis Rhagfyr 2018.

Cwblhawyd

A3b

Gwneud defnydd mwy effeithiol o ddata er mwyn cadw golwg

ar y defnydd o safleoedd, gwariant a pherfformiad; ac i asesu

effeithiolrwydd y rhaglen ad-drefnu.

Cwblhau rhaglen arolwg cyfleustodau yn y safleoedd mwyaf.

Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

Parhaus

Defnyddir arolygon cyfleustodau yn rhan o waith dadansoddi anghenion adeiladau parhaus. Cwblhawyd arolygon ledled Cymru cyn symudiadau swyddfa mawr yn y Gogledd a’r De y soniwyd amdanynt uchod.

Cwblhawyd

Cyflwyno egwyddorion gweithio ystwyth.

Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

31/12/16

Cymeradwywyd yr egwyddorion ac maent yn cael eu defnyddio ar gyfer prosiectau adeiladau’r presennol a’r dyfodol.

Cwblhawyd

Cyflwyno proses olrhain gwariant a pherfformiad ar gyfer safleoedd ar ôl ad-drefnu

Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

 

30/09/16

Cyfarfodydd rheolaidd gyda Chyllid Busnes i olrhain arbedion ad-drefnu.

Cwblhawyd

A4

Dylai CNC sicrhau bod y ffordd

newydd o werthuso swyddi’n ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion busnes

CNC yn y dyfodol.

Adolygu proffiliau swydd cyffredinol CNC i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer anghenion busnes y dyfodol

Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Sefydliadol a Rheoli Pobl

31/03/17

Mae’r cynllun a ddatblygwyd yn ddigon hyblyg i gefnogi busnes y dyfodol ond bydd yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru os oes angen i adlewyrchu anghenion Cynllunio Sefydliadol yn y dyfodol.

Cwblhawyd

A5

Dylai CNC adolygu ei weithgareddau

ymgysylltu â staff a rhanddeiliaid i ddangos ei werth, pa mor effeithiol

ydyw, ac i ba raddau mae’n cadw at ei bwrpas fel sefydliad, ynghyd â

gweithgareddau a chanlyniadau’r rhaglen trawsnewid.

Cyflwyno proses adborth rheolaidd ar gyfer y Tîm Gweithredol a Bwrdd CNC gan ddefnyddio Dangosfwrdd Cyfathrebu newydd.

Cyfarwyddwr Cysylltiadau a Chyfathrebu Allanol

31/03/17

Mae adroddiad cyfathrebu tri misol ar waith ar gyfer y Tîm Gweithredol a’r Bwrdd.

 

Datblygwyd dull ymgysylltu â rhanddeiliaid/y sector wedi ei adnewyddu gan roi trosolwg a chyfranogiad i’r Bwrdd a’r Tîm Gweithredol ar yr un pryd ag ymatebolrwydd a hyblygrwydd gweithredol.

Cwblhawyd

A6

Dylai CNC

fonitro’r ffordd mae’n defnyddio data sy’n ymwneud â’r gweithlu i sicrhau

ei fod yn ddata ystyrlon a chywir a’i fod yn cael ei adrodd yn briodol i’r tîm

gweithredol a’r bwrdd, ac i bwyllgorau eraill pan fydd hynny’n berthnasol.

Parhau i adrodd gwybodaeth rheoli’r gweithlu misol yn rheolaidd.

Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Sefydliadol a Rheoli Pobl

31/03/16

Caiff data yn ymwneud â’r gweithlu ei adrodd yn rheolaidd ac yn gywir i’r Tîm Gweithredol a’r cyfarwyddiaethau erbyn hyn. Caiff mesuryddion allweddol (e.e. llesiant, iechyd a diogelwch) eu hadrodd i’r Pwyllgor Pobl a Chydnabyddiaeth a Bwrdd CNC.

 

 

 

 

Cwblhawyd

 

Adolygu’r defnydd o ddata gweithlu, sut y maent yn cael eu hadrodd, a chytuno ar ofynion adrodd y dyfodol.

Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Sefydliadol a Rheoli Pobl

31/03/17

Mae data llesiant, iechyd a diogelwch gwell yn cael eu hadrodd yn rheolaidd ac yn gywir i’r Tîm Gweithredol a’r cyfarwyddiaethau erbyn hyn.

Mae newid sefydliadol ehangach yn cael ei flaenoriaethu gan y bydd hyn yn ysgogi gofynion data gweithlu.

Cwblhawyd

A7

Dylai

Llywodraeth Cymru a CNC sicrhau eu bod yn gosod canllawiau clir ar rôl

ddisgwyliedig aelodau’r bwrdd o ystyried y cwtogi ar amser, ac yn adolygu

a yw hynny wedi cael unrhyw effaith ar effeithiolrwydd y bwrdd.

Cytuno ar delerau gweithredu newydd i Fwrdd CNC.

Cyfarwyddwr Llywodraethu

31/03/16

Mae bwrdd newydd CNC wedi cytuno ar ei ‘modus operandi’, gan gynnwys fformat ac amlder cyfarfodydd Bwrdd CNC, aelodaeth pwyllgorau, sesiynau diweddaru Bwrdd CNC, is-grwpiau Bwrdd CNC a swyddogaethau ‘hyrwyddwr’. Mae dogfennau Bwrdd CNC, gan gynnwys Llawlyfr Bwrdd CNC, wedi cael eu diweddaru i adlewyrchu’r trefniadau newydd hyn.

 

 

Cwblhawyd

Adolygu effeithiolrwydd gweithrediadau Bwrdd CNC

Cyfarwyddwr Llywodraethu

31/03/17

Cwblhawyd ymarfer effeithiolrwydd Bwrdd CNC, wedi ei hwyluso gan Academi Wales yn ystod hydref 2016, a chytunwyd ar gamau dilynol.

 

 

 

Cwblhawyd

P1

Rheoli risg – ymsefydlu prosesau rheoli risg allweddol

Cwblhau’r camau yng Nghynllun Gweithredu Rheoli Risg Archwiliad Mewnol CNC

Cyfarwyddwr Llywodraethu

31/03/17

Datblygwyd dull rheoli risg wedi ei ddiweddaru. Mae’r offerynnau newydd yn cynnwys: Datganiad Parodrwydd i Dderbyn Risg, Meini Prawf Asesu Risg a thempledi Cofrestr Risg.

Cwblhawyd

P2

Caffael – ymateb  i hunanasesiad Model Aeddfedrwydd Caffael Llywodraeth Cymru

Mae’r treial o’r Model Aeddfedrwydd yn cael ei gynnal gan CNC ar hyn o bryd.

Ar ôl ei gwblhau, byddwn yn gweithio gyda Gwerth Cymru i gytuno:

-       y dyddiad iddynt gynnal eu hasesiad eu hunain o CNC

-       sut y bydd y “gwersi a ddysgwyd” o’r treial yn cael eu bwydo i mewn i’r Model Aeddfedrwydd diwygiedig yn barod ar gyfer ei lansio ledled Cymru

Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

31/03/17

Cwblhawyd hunanasesiad CNC ar gyfer Model Aeddfedrwydd LlC ar gyfer BA15/16.

 

Mae LlC yn adolygu ei chynlluniau gwaith (cyflawn) yn ffurfiol erbyn hyn (sy’n cynnwys y Model Aeddfedrwydd) gyda’r nod o lansio rhaglen weithgarwch newydd yn yr hydref. Mae LlC yn awyddus i gynnwys pawb yn y gwaith o siapio hyn, ac felly bydd yn bwrw ymlaen â hyn ar y cyd â chydweithwyr y Bwrdd Caffael a’r Grŵp Cyflawni dros yr haf.

 

Yn y cyfamser, mae CNC yn parhau i ddefnyddio elfennau allweddol y Model Aeddfedrwydd fel sail ar gyfer gwella ac i ffurfio arfer gorau.

 

 

 

Cwblhawyd

P3

Rheoli grantiau – ymateb i bryderon Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd ynghylch prosesau ar gyfer dyfarnu a gweinyddu grantiau.

Gweithredu argymhelliad o’r Adolygiad Ardal Busnes o sut y caiff grantiau eu dyfarnu, eu gweinyddu a’u rheoli

Cyfarwyddwr Gweithredol Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Chyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

31/05/16

Cymeradwywyd y dull ar gyfer gweinyddu grantiau yn y dyfodol gan Fwrdd CNC ym mis Medi 2016.

Cwblhawyd

Adolygu effeithiolrwydd y broses newydd a’i diwygio yn ôl yr angen

Cyfarwyddwr Gweithredol Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Chyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

31/03/17

Bydd trefniadau newydd yn berthnasol i rowndiau grant o 2018/19. Bydd camau parhaus i fynd i’r afael ag adroddiad archwilio mewnol yn cael eu cyflawni yn unol ag amserlenni a gytunir.

Cwblhawyd

23 Hydref 2017

 



[1] Creu Cyfoeth Naturiol Cymru – gwireddu buddiannau'r Achos Busnes”. Cyfoeth Naturiol Cymru. Gorffennaf 2017.

[2] “Datblygiad Cyfoeth Naturiol Cymrutural Resources Wales”. Swyddfa Archwilio Cymru. Chwefror 2016. Adalwyd 9 Hydref 2017.

[3] Arolwg Pobl 2016”. Cyfoeth Naturiol Cymru. Adalwyd ar 9 Hydref 2017.

[4] Ein penderfyniadau hunan-drwyddedu. Cyfoeth Naturiol Cymru. Adalwyd ar 9 Hydref 2017.

[5] “Datblygiad Cyfoeth Naturiol Cymru”. Swyddfa Archwilio Cymru. Chwefror 2016. Adalwyd ar 9 Hydref 2017.

[6] “Model Comisiynu ar gyfer Cydweithio a Chyd-gynhyrchu”. Cyfoeth Naturiol Cymru. Adalwyd ar 9 Hydref 2017.

[7] Cofnodion cyfarfod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, Mai 2017”. Cyfoeth Naturiol Cymru. Mai 2017. Adalwyd ar 9 Hydref 2017.

[8] Adroddiad Cyllid – 2017-18. Papur Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru. 20 Medi 2017. Adalwyd ar 9 Hydref 2017.

[9] Creu Cyfoeth Naturiol Cymru – gwireddu buddiannau'r Achos Busnes”. Cyfoeth Naturiol Cymru. Gorffennaf 2017.

[10] Achos Busnes yr Un Corff Amgylcheddol yng Nghymru”. Llywodraeth Cymru. 29 Tachwedd 2011. Adalwyd ar 9 Hydref 2017.

[11] “Datblygiad Cyfoeth Naturiol Cymru”. Swyddfa Archwilio Cymru. Chwefror 2016. Adalwyd ar 9 Hydref 2017.

[12] “Cyllido’r Gwaith o Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy”. Papur Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru. 13 Gorffennaf 2017.

[13] “Goblygiadau Brexit i reoli adnoddau naturiol ac i Cyfoeth Naturiol Cymru”. Papur Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru. 23 Mawrth 2017.

[14] Potential Implications of leaving the EU for UK agriculture and the rural environment. Y Sefydliad Polisi Amgylcheddol Ewropeaidd. 31 Awst 2017.

[15] “Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i: alwad Cynulliad Cenedlaethol Cymru am dystiolaeth ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)”. 19 Ionawr 2017. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 12 Hydref 2017.

[16] Agenda a phapurau'r Pwyllgor Cyllid”. 19 Ionawr 2017. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 12 Hydref 2017.

[17] Blwyddyn Chwedlau – taniwch eich dychymyg wrth i CNC ddatgelu’i 10 uchaf”. Cyfoeth Naturiol Cymru. Adalwyd ar 11 Hydref 2017.